Thread Rating:
  • 0 Vote(s) - 0 Average
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
my personal statement
#1
if any of you on here undertand welsh, could you tell me what you think of this atempt at a personal statement, :-)

Ar hyn o bryd rwy’n astudio Cemeg, Bioleg ac Addysg Gorfforol i lefel A. Rwy’n mwynhau’r cwrs Addysg Gorfforol yn fawr iawn gan mae’n gyfuno elfennau Bioleg, Cemeg, a Chwaraeon.
Mae gen i llawer o diddordeb yn y byd chwaraeon. Rwyf wedi chwarae yn pob tîm chwaraeon ers dechrau yn yr ysgol yma. Y flwyddyn yma rwyf wedi cael fy mhenodi yn Is-Gapten i’r tîm Hoci Hyn. Rydw i wedi cynrychioli Ceredigion yn timau Dan 16 (2003 a 2004) a Dan 18 (2005 a 2006) hoci, a timau Dan 14 (2002), Dan 16 (2003 a 2004) a Dan 18 (2005 a 2006) Pêl rwyd Ceredigion. Hefyd rwyf wedi bod yn rhan o tîm pêl droed Dan 16 (2003) a wnaeth cyrraedd 4 tîm olaf Cymru. Hefyd wnes i cystadlu yn cystadleuaeth naid uchel Dyfed. Ers i mi fod yn y chweched rwyf wedi bod yn helpu dysgu tîm pêl droed blwyddyn 7 a wnaeth ennill Cwpan Ysgolion Cymru. Yn ogystal a hyn wnes i cynorthwyo yn twrnamaint rownderi blwyddyn 7-9, cymryd rhan yn arddangosfeydd gymnasteg (2002/03/04/05). Rwyf hefyd wedi chwarae i tîm hoci Llanybydder a tîm pêl rwyd Teifi ac ymarfer gyda tîm hoci Aberteifi tu allan i’r ysgol. Mae fy mhrofiadau mewn timau wedi helpu mi i datblygu fy sgiliau cyfathrebu ac fy ngallu i weithio gyda eraill. Hefyd rwyf wedi bod yng ngherddorfa Ceredigion (2001 a 2002 a 2003), ac yng ngherddorfa’r ysgol o (2000- 2004). Rwyf hefyd wedi cystadlu yn eisteddfod yr urdd yn cystadleuaeth dawnsio greadigol. Rwyf wedi cael fy ethol fel un o swyddogion y chweched, sy’n rhoi fwy o cyfrifoldeb arnaf. Mae rhaid i ni dangos esiampl i weddill yr ysgol, yn enwedig yr ysgol iau.
Fy diddordebau tu allan i’r ysgol yw cadw’n iach trwy chwarae hoci, mynd i’r “gym” a seiclo. Rwy’n hoff iawn o mynd allan i cymdeithasu gyda fy ffrindiau a cwrdd a pobl newydd. Yn ogystal a hyn rwy’n gwneud llawer a’r ceffylau, gan cystadlu’n rheolaidd trwy gydol y flwyddyn. Rwyf wedi bod yn marchogaeth ers i mi fod yn 5 mlwydd oed. Rwyf wedi bod yn ‘squad’ Cymru am 2 flwyddyn ac ar hyn o bryd rwyf wedi cynrychioli Cymru (Dan 21 a Dan 25) 6 gwaith yn rhyngwladol. Cefais fy ethol yn capten y ‘Junior Team’ yn Iwerddon ac yn y cystadleuaeth yn Lloegr. Mae hyn yn dangos fy mod yn barod i rhoi llawer o gwaith caled i mewn er mwyn llwyddo.
Wnaeth fy wythnos o profiad gwaith yn ysbyty Gorllewin Cymru, Caerfyrddin rhoi profiad i mi o weithio gyda’r cyhoedd ac i gweld pa anafiadau sy’n datblygu oherwydd chwaraeon. Roedd gweithio yn ysbyty am wythnos wedi dangos fy mod yn digon cyfrifol i cadw manylion personol yn cyfrinachol, ac fy mod yn gallu siarad a’r patients yn y ffordd briodol. Hefyd bues ar wythnos o profiad yn gweithio yn fy stablau lleol. Fydd y profiad hyn o fydd i mi oherwydd wnes i gweithio a’r cyhoedd eto, sydd wedi datblygu fy sgiliau cyfathrebu ymhellach.
Rwy’n bwriadu cael flwyddyn allan i datblygu fy sgiliau marchogaeth a record gystadleuol.
Reply
#2
i think it's fantastic
Reply
#3
needs a little bite of checking doesn,t make sense do not know welsh what are u sayin
Reply
#4
It's all Welsh to me...
Reply


Forum Jump:


Users browsing this thread: 1 Guest(s)